DANGOSWCH EICH TEYRNGARWCH YN GLIR DRWY ORCHUDDIO CYMRU Â BANERI GLYNDŴR: DYMA ALWAD I BOBL GLYNDŴR WRTHSEFYLL YR YMGYRCH DDIDDIWEDD I "WTHIO" BRENHINIAETH LLOEGR AR GYMRU.
An English version of the below can be found on the blog ‘Galwad Glyndŵr'.
YMGYRCH CHWIFIO BANERI GLYNDŴR 2011
Adnewyddir yr ymgyrch, yn rhannol, ar hyn o bryd, fel modd o ddathlu llwyddiant y bleidlais 'ia' am fwy o bwerau i'r Cynulliad Cymreig er, dylem ddim colli golwg ar y ffaith fod yna ffordd hir i fynd eto cyn inni gael Senedd llawn pwerau ac yna annibyniaeth. Tydi'r frwydr ddim yn terfynu gyda chanlyniadau'r 3ydd o Fawrth o bell ffordd, mae’n rhaid cario’n mlaen nes gwelir y dydd pryd fydd y dyheadau hynny a lleiswyd yn Llythyr Pennal, y ddofen mwyaf pwysig yn ein hanes, yn cael eu gwireddu.
Fel modd o wneud y pwynt bod ein hymgyrchu’n parhau hyd nes ceir annibyniaeth ac fel modd o fynegi’n glir ein gwrthwynebiad i’r ffordd mae brenhiniaeth Lloegr yn cael ei “wthio” arnom byth a beunydd yng Nghymru - ac yn arbennig gyda’r briodas diweddara’ ma sydd i gymryd lle ar y 29ain o Ebrill eleni, mae Llysgenhadaeth Glyndŵr am alw ar bob unigolyn yng Nghymru sy’n ystyried eu hunan yn un o 'ddinasyddion Glyndŵr' i fynd ati o ddifrif i godi baner Glyndŵr ym mhob ‘gwagle’ ellir cael hyd iddo drwy’r genedl er mwyn gorchuddio’r môr o faneri ‘jac yr undeb a fydd, o fewn wythnos neu ddwy, yn gormesu tirlun ein cenedl.
Byddai chwifio’r ‘Ddraig Goch’ - baner y Tuduriaid a atgyfodwyd gan Lloyd George ar gyfer Arwisgiad 1911 ddim yn gwneud y tro. Yn y lle cyntaf, byddai’n cael ei gam-ddeall gyda phobl yn meddwl ein bod yn ymuno yn nathliadau’r briodas yng Nghymru - ac wrth gwrs, tyda ni ddim ond hefyd, bydd chwifio baner Glyndŵr yn ddatganiad pendant o’n teyrngarwch a bod y frwydr am annibyniaeth yn parhau.
Felly, mae’r Llysgenhadaeth yn galw am gefnogaeth pob gwladgarwr drwy Gymru benbaladr i lwyr gefnogi’r ymgyrch yma sy’n cychwyn ar Fawrth 31 - Dydd Llythyr Pennal, mewn modd sydd o ddifrif yn weithredol. Os gwneir yr ymdrech a ofynnir amdano gan bob gwladgarwr yng Nghymru, bydd tirwedd ein cenedl yn fôr o felyn a choch 'Pedwar Llew Rampiant’ Owain Glyndŵr erbyn Ebrill 29ain ac yna, gellir gadael y faner i chwifio ar gyfer dathlu penblwydd Tywysog Owain (28 Mai) Dydd dathlu ei goroni a Dydd y Senedd (Mehefin 21) a Dydd Glyndŵr (Medi 16) wrth gwrs. Bydd gofyn trefnu ar gyfer cychwyn yr ymgyrch yma rŵan os ydym i ennill y frwydr yn erbyn yr ‘hysteria jac undebaidd’ ‘ma sydd ar droed!
Cefais fy nigalonni'r noson o’r blaen wrth wylio’r newyddion a gweld Cymry ifanc iawn mewn ysgol meithrin yn cael eu cyflyru a’u hannog i wneud ‘bunting jac yr undeb’ ar gyfer partïon stryd. Dylai rhieni gwlatgar Cymreig holi os yw eu plant nhw yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y math hwn o weithgaredd - a chwyno i’r ysgol ac i’r awdurdodau addysg lleol os ydynt. Wrth gwrs, mae’r mwyafrif ohonom yn hoff o bartïon - ac yn enwedig yr hen blant - ond gall rhieni gwlatgarol ddim caniatáu i’w plant fynychu’r partis stryd ‘ma sydd a wnelo ddim a Chymru. Felly, mae’n bwysig bod Bobl Glyndŵr, sydd â phlant, yn ymuno a gwladgarwyr eraill yn eu cymunedau i drefnu gweithgareddau mwy perthnasol fel ‘picnics’ neu farbiciws a phasiantau Glyndŵr ym mharciau Cymru - a gwell fyth os ellir cynnal y gweithgareddau hyn yn un o’r parciau hynny drwy Gymru sydd wedi ei gysegru yn Barc Glyndŵr fel y rhai yn Johnstown yn Wrecsam, a Chaernarfon a Chaerffili er enghraifft.
Mae trefnu picnic neu farbiciw yn ddigon rhwydd ac rwy’n siŵr byddai modd o gael hyd i ‘glerwyr Glyndŵr’ ac artistiaid eraill (cwmnïau pypedau, storïwyr ac ati) a fyddai’n barod i fynychu i gyflwyno adloniant ar gyfer y plant yn rhad ac am ddim?
Yn ogystal, rhwng rŵan a’r 29ain o Ebrill, hwyrach all Pobl Glyndŵr drefnu pasiantau fydd yn addas i gofio am Gatrin Glyndŵr, tywysoges Cymraeg go iawn a gafodd ei charcharu gyda’i phlant yn Nhŵr Llundain am fod yn ferch i Glyndŵr. Trengodd Catrin a’i phlant yn y Tŵr a does neb yn gwybod sut?
Felly, does ddim amser i wastraffu, prysuro’n mlaen sy’n rhaid er mwyn sicrhau nad yw plant Pobl Glyndŵr yn colli allan - a wnânt ddim os defnyddir yr achlysur i ddysgu hanes Glyndŵr iddyn nhw yn hytrach na chaniatáu iddyn nhw gael eu cyflyru a Phrydeindod.
Heb amheuaeth, mi fydd y briodas frenhinol Seisnig yma’n cael ei “gorwneud” drwy Ebrill ac yna drwy Calan Mai - a Ŵyl y Banc. Felly, fel modd o ddihangfa rhag y cyfan, pam ddim mynd a’ch teuluoedd i ymweld â safleoedd Glyndwraidd yn eich cymunedau neu mewn rhannau eraill o Gymru. Rwyf i, fy hunan, am ymweld â safleoedd a chestyll sydd â chysylltiadau Glyndwraidd yng Ngwent gan nad wyf wedi cael fawr o gyfle i ymweld â nhw o’r blaen. Ble bynnag yr ewch, gellir mynd a baner Glyndŵr gyda chi a/neu rhai bach y gellir eu gosod ar ffenestri’ ceir.
Hwyrach bydd y gwladgarwyr mwyaf gwrthryfelgar yn eich mysg am gynnal protest a does ddim lle gwell i wneud hynny ar y 29ain o Ebrill eleni nag o gwmpas y gofeb sydd wedi ei chodi i goffau dewrder Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri. Mae’n fwriad gan drigolion Llanymddyfri i gynnal parti stryd yn sgwâr marchnad y dref ar y 29ain - yn yr union le lle dienyddiwyd Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn y modd mwyaf creulon a ffiaidd posibl. Ac er bod cofeb odidog wedi ei chodi i’n hatgoffa i gyd o’r aberth a wnaed, mae trigolion Llanymddyfri am gael parti yno i ddathlu’r briodas frenhinol Seisnig! Son am ddawnsio ar fedd rhywun - ac nid ‘unrhyw’ rhywun ond arwr gwlatgarol Cymreig dewr o’r radd gyntaf! Bydd gwladgarwyr y Gorllewin am ddatgan eu protest yn erbyn hyn siawns? Os na wneir dim yna mae’n rhaid cydnabod bod yr ysbryd bu mewn gwlatgarwydd Cymreig wedi diflannu i le tywyll iawn!
Yn olaf, hoffwn awgrymu y dylai Cymry Llundain drefnu gweithgaredd ar y 29ain o Ebrill yn Ardd Sant Switan yn Ninas Llundain fel modd o ganolbwyntio meddyliau pobl ar y ffaith mai Catrin oedd ein tywysoges olaf ac nid Diana na kate Middleton. Yn ogystal, gellid gosod torch yn Marble Arch i gofio am Rhys Ddu o Geredigion, un arall o gapteiniaid ac Arwr Glyndŵr a lusgwyd (wrth gael ei wawdio) ar hyd strydoedd Llundain cyn iddo yntau gael ei ddienyddio yn yr un modd creulon a ffiaidd a Llywelyn ap Gruffydd Fychan.
Beth bynnag ydych yn dewis ei wneud neu le bynnag dach chi’n dewis mynd ar y 29ain o Ebrill, cofiwch wneud yr achlysur yn ŴYL BANERI GLYNDŴR. Dewch i ni weld faint o faneri a ellir ei chwifio yng Nghymru mewn protest yn erbyn “wthio’r” briodas frenhinol Seisnig ‘ma arnom. Yna gosodwch eich lluniau ar eich blogiau eich hunain. Lledaenwch y neges fel gwnâi’r ‘Clerwyr Glyndŵr’ gynt. Nhw oedd y ‘tecswyr’ a’r ‘yswytwyr’ yn nyddiau Glyndŵr. Gwnewch yn siŵr fod yr 29ain o Ebrill yn Ddydd Baneri Glyndŵr arbennig dros ben. Dewch i ni weld protest gwlatgarol Pobl Glyndwraidd a fydd yn lledaenu drwy’r genedl gyfan - o’r Gogledd i’r De ac o’r Dwyrain i’r Gorllewin!
Siân