OWAIN GLYNDWR COMMUNICATES

Promoting an interest in the history of Owain Glyndwr, the Welsh Son of Prophecy, his life, times and society and his great Welsh War of Independence;also promoting causes today in Glyndwr's spirit and promoting the flying of the Glyndwr flag on Sept 16 Glyndwr Day.

Wednesday, September 13, 2023

CARTREF NEWYDD I DRYSORAU CENEDLAETHOL NEWYDD CYMRU YNG NGHORWEN. A NEW HOME FOR CYMRU'S NATIONAL TREASURES IN CORWEN.

Fel ŵyr pawb, collwyd y mwyafrif o drysorau cenedlaethol Cymru pan bu i Gymru cael ei 'feddiannu' wedi rhyfel cenedlaethol 1282- 3 yn erbyn Edward Iaf a'i fyddinoedd. Trosglwyddwyd rhai o'r trysorau, fel coron Tywysogion Gwynedd a'r Groes Naid, i ddwylo'r gelyn gan fradwyr a oedd am achub eu crwyn eu hunain yn ogystal a chael eu gwobrwyo am eu bradychiad, tra bu i drysorau eraill gael eu dwyn o fannau sanctaidd fel Abatai Cymer ac Ystrad fflur. Ar hyd y canrifoedd yn dilyn hynny, bu i unrhyw drysor arall a gafodd ei ddarganfod yng Nghymru, fel y Clogyn Aur a ddarganfyddwyd yn y Wyddgrug yn 1833 fel engraifft, gael ei hawlio gan y Prydeinwyr a choron Lloegr, ac er fod yna alwadau wedi bod yn gofyn am i'r trysorau hynny gael eu dychwelyd i Gymru, disgyn ar glustiau byddar mae'r galwadau, does gan y Prydeinwyr ddim bwriad i ddychwelyd trysorau unrhyw wlad ta waeth faint mo'r uchel yw'r groch.

https://en.wikipedia.org/wiki/Llywelyn%27s_coronet

Felly, wedi i ni gymryd yr uchod i ystyriaeth a gan i ni fod yn deall fod Trysorau Cenedlaethol yn hynod o bwysig i fynegiant o hynan hyder a Sofraniaeth cenedl, penderfynodd Llysgenhadaeth Glyndŵr i fynd ati i ddarparu Trysorau Cenedlaethol newydd i Gymru, a sicrhau eu bod yn barod mewn pryd i ddathlu a choffâu 600mlwyddiant Rhyfel am Annibyniaeth Tywysog Owain Glyndŵr yn y flwyddyn 2000.

http://news.bbc.co.uk/welsh/low/newsid_3690000/newsid_3691000/3691095.stm

Erbyn y flwyddyn 2004, sef dyddiad 600mlwyddiant sefydlu Senedd Gymreig Owain Glyndŵr, a'i goroni yn y Senedd honno, roedd Llysgenhadaeth Glyndŵr wedi comisiynu gwneuthuriad Coron, tair Cleddyf a Dagr yn drysorau newydd i Gymru. Cafwyd seremoniau arbennig i gartrefu'r Goron yng Nghefn Caer ym Mhennal, Cleddyf ym Machynlleth a Dagr yng Nghorwen. 

Gweler mwy o wybodaeth am hanes cynnar y trysorau hyn yn y dolennau isod.

http://news.bbc.co.uk/welsh/low/newsid_3650000/newsid_3650000/3650024.stm

http://owain-glyndwr-embassyllysgenhadaeth.blogspot.com/2007/06/stop-press-coron-glyndwr-has-been.html

Ymlaen, i'r presenol:

Erbyn hyn ac yn drist iawn, rydym  wedi colli Elfyn Rowlands, sef 'Gwarchodwr y Goron' a perchennog Cefn Caer, yn ogystal a'i chwaer Alwena Thomas a oedd yn cadw trefn ardderchog ar yr Ardd Goffa i Arwyr Glyndŵr a sefydlwyd yn y berllan hyfryd a hudolus yng Nghefn Caer. Gweler ddolen isod  i ffilm ar Gefn Caer.

https://www.youtube.com/watch?v=ZE15-3el35U

Mab Alwena sy'n berchen ar Gefn Caer erbyn hyn, ffarmio yw ei bryd ac mae'r berllan a'r Ardd Goffa wedi diflannu ar gyfer ffermio'r tir. Does ganddo ddim amser i dywys ymwelwyr i weld y Goron ac felly, bu'n rhaid i ni chwilota am gartref newydd i'r Goron ac i'r Ardd Goffa.

Rydym yn hynod o falch i allu cyhoeddi mai cartref newydd Trysorau Cenedlaethol Cymru fydd Amgueddfa Tref Corwen ac rydym yn hynod o ddiolchgar i Phil Yaxley, yn y lle cyntaf, am gysylltu ac aelod o Ymddiriedolaeth yr Amgueddfa ar ran Llysgenhadaeth Glyndŵr i gynnig y syniad. Yna, hoffem ddiolch yn fawr iawn i Mike Paice, Mike Wyeth ac aelodau eraill o Ymddiriedolaeth yr Amgueddfa am gytuno i gartrefu'r Trysorau yn y lle cyntaf ac yna am weithio mor ddygn i gael yr arddangosfa'n barod ar gyfer Dydd Glyndŵr eleni gyda ond cwta bythefnos o rybudd.

  Felly, bydd trosglwyddo'r Trysorau yn ffurfio rhan o Ŵyl Blynyddol Owain Glyndŵr Corwen eleni a'r drefn ar gyfer y dydd bydd fel a ganlyn yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall:

Bydd swyddogion Llysgenhadaeth Glyndŵr ac aelodau o Ymddiriedolaeth yr Amgueddfa yn dod a'r Goron a'r Cleddyf ar y tren o Lyndyfrdwy i Gorwen i gyrraedd gorsaf Corwen am ugain munud i 1pm ac yna bydd y trysorau yn cael eu tywys i Sgwar Corwen ar gyfer y seremoni trosglwyddo a fydd yn cymryd lle am 1pm. Bydd un o Gynghorwyr Corwen yn trosglwyddo Dagr Corwen i'r Amgueddfa ar fenthyciad tymor hir. Mae'r ddagr wedi bod yn nwylo'r Cyngor ers i'r Athro Aled Gruffydd Williams anrhegu'r ddagr i Gorwen yn ôl yn 2004 ar ran Llysgenhadaeth Glyndŵr ond tydi ddim wedi cael ei harddangos hyd yma..

Bydd Cymdeithas Trefnu Gŵyl Owain Glyndŵr Blynyddol Corwen yn gosod torch wrth droed y cerflun o Owain Glyndŵr fel sy'n arferol. 

Mae'n berthnasol iawn i gludo'r Goron a Chleddyf o Glyndyfrdwy wrth gwrs gam mae yn ei Lys yno bu i Owain Glyndŵr gael ei ddewis a'i benodi'n Dywysog Cymru ar gychwyn y Rhyfel am Annibyniaeth, felly, mewn gwirionedd, mae'r goron yn mynd i'w wir gartref.

Bydd cyfle i fynd i weld yr Arddangosfa, yn cynnwys placiau yr Ardd Goffa) yn eu lle yn yr Amgueddfa wedi'r seremoniau.

Pasiwch y wybodaeth yma'n eang a cofiwch ddod a digonedd o faneri Glyndŵr - baner Annibyniaeth Cymru, i'w chwifio yng Nghorwen dydd Sadwrn i ddangos parch ac i dalu teyrnged i'r arwr mwyaf a welodd Cymru erioed.. Welwn ni chi gyd yno.

ER MWYN CYMRU!

English version to follow later today.