OWAIN GLYNDWR COMMUNICATES

Promoting an interest in the history of Owain Glyndwr, the Welsh Son of Prophecy, his life, times and society and his great Welsh War of Independence;also promoting causes today in Glyndwr's spirit and promoting the flying of the Glyndwr flag on Sept 16 Glyndwr Day.

Friday, November 16, 2007

Ffarwel Grav

Daeth miloedd i Barc y Strade, Llanelli ar ddydd Iau 15 Tachwedd 2007 i dalu eu teyrnged i un o feibion mwyaf gwlatgarol Cymru. Mae'r cyfan ellir ei ddweud, eisoes wedi ei ddweud am Grav a gallaf ond ychwanegu'r geiriau canlynol oedd mor agos at ei galon ... "Myn Duw mi a Wn y Daw"
Llun: Gareth ap Sion

A phan ddaw Owain Glyndŵr, arwr mwyaf Grav, yn ôl, dwi'n siwr y bydd Grav wrth ei ochr ef a'r arwyr mawr eraill wrth iddyn nhw garlamu allan o Ogof yr Arwyr ar eu meirch pwerus. Ffarwel Grav, gwelir colled ar dy ôl.


Mae yna ddeisebau ar y gweill yn galw am i Gwpan y Tywysog William gael ei ail enwi yn Gwpan Ray Gravell. Oes gobaith yn y byd y bydd yr URC yn gwrando ar gais gefnogwyr Rygbi Cymru ac yn gwneud yr hyn maent yn ei ddymuno? Nagoes yw'r ateb. Felly, mae'r Llysgenhadaeth yn awgrymu fod y cefnogwyr yn boicotio'r gêm ac yn cyfrannu pris y tocyn i Gronfa Goffâ Ray Gravell.


1000's came to Stradey Park rugby ground on Thursday Nov 15th 2007 to pay their last respects to a great patriotic son of Wales. Everything that can be said, has already been said in tribute to Ray so I can add little more than repeat the words that were so close to his own heart..."Myn Duw mi a Wn y Daw" (My God I know he will come) and I am sure that when Grav's greatest hero, Owain Glyndŵr, does return, that Grav will be riding out of the Cave of Heroes alongside him and all the other great Welsh heroes.
Farewell Grav, you will be greatly missed.

There are petitions doing the rounds calling for the Prince William Cup to be renamed the Ray Gravell Cup. Is there any chance that the WRU will listen to Welsh Rugby supporters and grant their wish? No! will most definitely be the answer to that question so, the Embassy suggests that everybody boycotts the game in question and donates the ticket price to the Ray Gravell Fund.

Siân