OWAIN GLYNDWR COMMUNICATES

Promoting an interest in the history of Owain Glyndwr, the Welsh Son of Prophecy, his life, times and society and his great Welsh War of Independence;also promoting causes today in Glyndwr's spirit and promoting the flying of the Glyndwr flag on Sept 16 Glyndwr Day.

Friday, November 02, 2007

Er cof am/ In memory of Ray Gravell

Ray Gravell 1951 - 2007

Mae Cymru mewn galar yn dilyn y newyddion trist iawn a'm tarodd bore Iau fod 'Grav' wedi ein gadael. Byddai ei orchestion rygbi, yn eu hunain, wedi gwneud hyn yn golled enfawr i Gymru ond, fel mae pawb yn gwybod, roedd 'Grav' yn gawr gwlatgarol mewn cymaint o ffyrdd eraill. Roedd yn ddyn Glyndŵr mawr a byddaf yn colli ei gyfarchiad brwdfrydig o 'Juratus Oweyn' bob tro roedd o'n fy ngweld. Roedd poblogrwydd 'Grav' yn golygu fod pawb yn mynnu ei amser ond roedd yn gwneud amser i bawb ac yn trin pawb yn yr un modd, a phob sefyllfa gyda'r un brwdfrydedd. Byddai 'Grav' wastad yn dweud, petai wedi bod yn byw yn yr un cyfnod a Glyndŵr byddai, heb unrhyw amheuaeth, wedi bod wrth ochr ei arwr ar faes y gâd; 'Grav', o achos dy wasanaeth di-flino dros Gymru, rwyt yn haeddu dy lê wrth ochr Glyndŵr a dwi'n siwr byddai'n gysur i ni gyd rwan i gredu iti fod wrth ochr dy arwr pennaf erbyn hyn.


Cydymdeimlwn yn dyfn a Mari, Manon a Gwenan, iddi nhw mae'r golled fwyaf ond dwi'n siwr fod y cariad a pharch tuag at 'Grav' a fynegwyd gan cyn gymaint o fobl yn gysur mawr iddyn nhw yn yr awr ddu yma.

Cymru is in mourning following the very sad news which hit us all on Thursday morning that 'Grav' had been taken away from us. His rugby achievements alone would have made this a great loss for Cymru but, as everyone knows, 'Grav' was a patriotic giant in so many other ways. He was a big Glyndŵr man and a big Embassy Glyndŵr supporter and I am going to miss his enthusiastic 'Juratus Oweyn' greeting whenever he saw me. 'Grav' was so popular that demands on his time was extremely high but he made time for everyone and treated everyone the same, and every situation with the same enthusiasm. 'Grav' would often say that had he been alive in the Glyndŵr era he would most definitely have been alongside his greatest hero in battle; 'Grav', for your tireless service to Cymru, you have earned your place alongside Glyndŵr and I'm sure it would be a great comfort to us all to believe that you are alongside him now.

Our deepest condolences to Mari, Manon and Gwenan, theirs is the greatest loss but I'm sure that the expression of love displayed for 'Grav' by so many is a great comfort to them in this dark hour.

Siân Ifan
Prif Weithredwr Llysgenhadaeth Glyndŵr.