BYDDIN NEWYDD ARWROL GAN GLYNDWR - CEFNOGWCH NHW! GLYNDWR'S NEW HEROIC ARMY - SUPPORT THEM!
Neges dwyieithog : Bilingual Posting
Dyma'r newyddion mwyaf cyffrous yn hanes rygbi Cymru ers ei gychwyn yn ein tyb ni. Enw newydd carfan Rygbi Gogledd Cymru yw RGC 1404. Does dim rhaid dweud wrth neb sy'n darllen y blog yma beth yw'r cysylltiad Glyndwraidd yn hyn o beth ond mae'n amlwg fod y garfan am alw ar 'ysbryd Glyndŵr' i'w harwain yn ystod eu brwydrau ar y maes.
Yn ogystal a mabwysiadu'r flwyddyn ôll bwysig yma yn hanes Glyndŵr, cyfnod pryd welwyd Cymru yn ôl yn nwylo'r Cymru wedi i Glyndŵr a'i fyddinoedd ennill un brwydr ar ôl y llall, mae RGC 1404 wedi mabwysiadu baner rhyfela'r tywysog (Y Ddraig aur) fel bathodyn a fydd ar eu crysau yn ogystal ac ar eu baneri ac ar bob math arall o nwyddau a fydd ar werth i gefnogwyr y garfan.
Am wneud hyn maent yn haeddu pob cefnogaeth gan wladgarwyr Cymreig sy'n byw mewn rhannau eraill o'r byd yn ogystal ac yng Nghymru. Gweler safle gwe'r garfan sydd yn llawn gwybodaeth diddorol ac yn cynnwys amserlen llawn o'r gemau sy'n dod i fynu - ac mae llu ohonynt i gymryd lle ar hyd a lled y wlad a thu hwnt! http://www.gogleddcymru.blogspot.com/
Yn ogystal, gellir lawrlwytho ffurflen ymaelodi fel 'aelod cydweithredol' o'r garfan o'r wefan uchod. £5 yn unig yw'r pris ymaelodi. Felly, dangoswch eich cefnogaeth, drwy ymaelodi a thrwy fynd i'r gemau pryd bynnag mae hynny'n bosibl. Prynwch nwyddau'r garfan a dewch i ni weld môr o faneri Glyndŵr a rwan, y ddraig aur, yn y gemau. Dyma gyfle gwych i ni ddangos i'r byd bod 'ysbryd Glyndŵr' yn fyw ac yn iach yng Nghymru o hyd. Gwnewch hynny drwy fynegi eich cefnogaeth i RGC 1404, byddin newydd Glyndŵr, a sicrhau eu bod yn ennill un fuddugoliaeth ar ôl y llall.
Mae Llysgenhadaeth Glyndŵr yn ffyddiog y byddai buddugoliaethau lu ar y meysydd chwarae yn gyfraniad pwysig i'r gwaith o hybu balchder, hyder ac hunaniaeth cenedlaethol y genedl. Mae angen adfer yr elfennau yma cyn inni fod ag unrhyw obaith o enill llwyr annibyniaeth i reoli ein hunain. Felly dewch i ni gyd wneud ein rhan. Dangoswch eich cefnogaeth yn glir i ymdrechion RGC 1404 ac i ANNIBYNIAETH! Yr un yw'r frwydr, meddyliwch amdano!
The North Wales Rugby Squad has, very shrewdly I may add, adopted 1404, the year that Owain Glyndŵr was crowned Prince of Cymru and established the Welsh Parliament at Machynlleth, into their new name. In our opinion, this is the most exiting news in the history of Welsh rugby and its obvious from this move that the squad have wisely realised that the 'spirit of Glyndŵr' is greatly needed to guide Welsh rugby during forthcoming battles in the field in the years to come.
What better inspiration is there to be found than Glyndŵr, the greatest of all the Cymric warrior leaders who had led Cymru to war against a much mightier force and, to all extent and purposes, had won back Cymru for the Cymry after over 100 yrs of conquest.
RGC 1404 has also adopted the 'Golden Dragon' (which was, as we all know, the symbol on Glyndŵr's battle flag) as their logo. What better inspiration for Welsh rugby that the 'battle symbol' of this charismatic multi dimensional extraordinary Welsh leader who, unlike his predecessors, was never betrayed but mysteriously dissapeared into the midst of time leaving behind him the hope in all true Cymric hearts that he would, one day, return to lead the continuing struggle for Cymric freedom.
This 'battle logo' will now be on RGC 1404's shirts, flags and all other merchandise and Embassy Glyndŵr now calls on all Cymric patriots, home and abroad, to rally to the support of the squad. Visit their web blog at http://www.gogleddcymru.blogspot.com/ Its loaded with interesting information - including their schedule for the season.
It is also possible to download a form from this blog so that you can join the RGC 1404 cooperative. Its only £5 to join - which gives you a vote so, do download the form and join and, of most importance, show the support to the squad by supporting them at games and by wearing their merchandise and by the flying of the flag.
Here's a great opportunity for us to show the world that the 'spirit of Glyndŵr' is still alive and gaining in strength in Cymru. Show this by expressing your support loud and clear for Glyndŵr's new army RGC 1404. Let's enspire them to win victory following victory by your show of support.
Embassy Glyndŵr confidently believes that on going victories on the playing fields can contribute greatly to the task of building pride, confidence and a national identity, and we believe that there's a great need to restore these elements in Cymru before we van hope to win complete independence and self rule. So, if you believe like us, let us all rally behind RGC 1404. Possibly, this could be the rallying call that Glyndŵr has been waiting for for so long. Think about it.
Mwy o newyddion da! Mae'r llyfr ardderchog yma gan y diweddar R. R Davies ar gael yn Saesneg erbyn hyn ac fel y gwyr pawb sydd wedi darllen y fersiwn Gymraeg, mae'r awdur, yn amlwg, wedi llwyddo i fynd dan croen ein prif arwr cenedlaethol ac wedi dod i'w adnabod, ei ddeall a'i barchu gyda'r parch mwyaf fel gwladweinydd a rhyfelwr craff a medrus ac fel Cymro ddigyfaddawd. Dyma gyfle gwych rwan i eraill drwy'r byd ddod i adnabod Glyndŵr yn yr un modd.
Gerald Morgan sydd yn gyfrifol am y cyfeithiad a gellir prynu'r llyfr o'r Y Lolfa, Talybont, Ceredigion, Cymru SY24 5AP. e-bost: ylolfa@ylolfa.com. Ffôn: 01970 832304.
More Good News! This excellent book by the late Professor R.R. Davies on Owain Glyndŵr has now been translated into English and as eveyone who's read the Welsh version knows, the author has, clearly, managed to get under the skin of our national hero and has come to know, understand and respect him with the greatest of respect as a shrewd politician, an accomplished warrior and an uncomprimising Cymro. Here's a great opportunity for others throughout the world to come to know Owain Glyndŵr in the same way.
This translation was carried out by Gerald Morgan and the book can be purchased from Y Lolfa, Talybont, Ceredigion, Cymru SY24 5AP. e-mail: ylolfa@ylolfa.com Tel: 01970 832304.
Gorymdaith Yr Hop V111 : Sul 21 Chwefror.
Dewch i ddathlu'r achlysur bu i Owain Glyndŵr a'i fyddin ryddhau tref Yr Hop ar Chwefror 22, 1403.
Ymgynnull ger Neuadd Eglwys Hop am 11.30am cyn gorymdeithio i gastell Caergwrle. Fel arfer, cofiwch ddod a digonedd o faneri Glyndŵr.
Cysylltwch a Balchder Cymru ar y rhif symudol 07957173262 am mwy o wybodaeth.
Hope V111 Parade - Sun 21st Feb. 11.30am.
Come and celebrate the event of Owain Glyndŵr and his army freeing the town of Hope on 22 Feb 1403.
Meet at Hope Church Hall at 11.30am for the parade to Caergwrle castle. As usual, bring plenty of Glyndŵr flags. More info from Balchder Cymru on (m) 07957173262
Siân
<< Home