OWAIN GLYNDWR COMMUNICATES

Promoting an interest in the history of Owain Glyndwr, the Welsh Son of Prophecy, his life, times and society and his great Welsh War of Independence;also promoting causes today in Glyndwr's spirit and promoting the flying of the Glyndwr flag on Sept 16 Glyndwr Day.

Sunday, August 30, 2009

Rhaglen Terfynol ar Gyfer Angladd Glyn Rowlands

.
Er Cof am
Dafydd Glyn Rowlands
1 Mawrth 1938 - 22 Awst 2009
.
Gwladgarwr a carcharor gwleidyddol yn 1969 am wneud ei ran i wrthwynebu'r arwisgo. Swyddog o'r Ffrynt Wladgarol a Chadlywydd ym Myddin Rhyddid Cymru. Un o sylfaenwyr y mudiad COFIWN a chydweithiwr ffyddlon â Llysgenhadaeth Glyndŵr. Un o'r Cilmeriaid a Chyfamodwr.
.
Gwasanaeth 1 yr Angladd: Capel Salem, Corris am 2pm ar ddydd Mawrth 1 Medi 2009.
.
Wedi'r gwasanaeth yn y capel, bydd yr hers yn cael ei hebrwng gan grŵp o feicwyr modur i Amlosgfa Aberystwyth. Mae'r Amlosgfa wedi ei leoli ar ffordd Clarach (ar y B4572) oddi ar Allt Penglais, Aberystwyth SY23 3DR.
.
Gwasanaeth yr yr Amlosgfa 3.45pm
.
Wedi'r gwasanaeth yn yr Amlosgfa, teithir yn ôl i'r 'Plas', Machynlleth (Celtica gynt) i ymgynnull ar gyfer gorymdaith byr, i ddathlu bywyd Glyn, o'r plas i'r Clwb Bowlio.
.
Disgwylir cyrraedd Y Plas (wedi teithio'n ôl o Clarach) tua 5.30pm.
.
5.45pm. Gorymdeithio drwy'r stryd i gyfeiriad y Clwb Bowlio, gyda arhosiad byr ger Canolfan Senedd-Dŷ Glyndŵr am funud o ddistawrwydd a saliwt. Cyhoeddir hyn gan Adam Phillips o Balchder Cymru wedi i'r orymdaith gyrraedd y Senedd-Dŷ.
.
6.20pm. Gorymdeithio'n mlaen i'r Clwb Bowlio lle cynhelir Hwyrnos lle bydd lluniaith yn aros.
.
Gwybodaeth ychwanegol pwysig:
Yn arwain yr orymdaith fydd teulu Glyn Rowlands. Dilynir y teulu gan carcharorion gwleidyddol y Ffrynt wladgarol a Byddin Rhyddid Cymru. Allan o'r naw a garcharwyd, does ond tri ar ôl wedi ymadawiad Glyn ond bydd cynrychiolwyr teilwng o'r fraint, yn cario lluniau o'r rhai eraill sydd wedi huno.
.
Bydd pum baner o bwysicrwydd hanesyddol yn cael eu cario'n ogystal:
.
* Baner meibion Glyndŵr h.y. baner yn seiliedig ar gynllun baner a fyddai
wedi bod yn faner personol i feibion Owain Glyndŵr. Gwnaed y faner yma yn arbennig i Glyn gan un o'i gyd wladgarwyr Toni Lewis.
.
* Baner yr Eryr Wen - Baner Gwrthsafiad Cymreig.
.
* Baner 4 Llew Rampant Owain Glyndŵr.
.
* Baner Draig Aur sef, baner brwydro Owain Glyndŵr.
.
* Baner Llywelyn sy'n cynrychioli Toni Lewis ac Eurig ap Gwilym.
.
Dilynir yr uchod gan Barti Lliw a band Balchder Cymru.
.
Yna, gorymdeithwyr sy'n cario baneri Glyndŵr - llu ohonyny yn obeithiol felly, cofier bawb sydd a baner Glyndŵr i ddod a hi
.
Dilynir hyn gyda gorymdeithwyr sy'n cario baneri gwlatgarol eraill, a gweddill y dorf.
.
Mae'r teulu'n awyddus i weld mor o faneri'n chwifio'n uchel ar yr orymdaith o'r Plas i'r clwb bowlio ond, yng nghyffiniau y gwasanaethau yn Corris ac yn yr Amlosgfa, disgwylir i pob baner gael ei gostwng yn isel tuag at y ddaear mewn ymddangosiad o barch.
.
Ar wahân i hyn, mae'r teulu yn estyn eu croeso cynnes i pob gwladgarwr Cymreig sy'n awyddus i fynychu'r angladd i ffarwelio â Glyn.
.
Trefnir yr orymdaith gan 'Ysbryd Cofiwn' mewn cydweithrediad â Balchder Cymru.
.
---------------------------------------------------------------
.
Funeral Programme:
.
1st Service: Salem Chapel, Corris at 2pm on Tuesday Sept 1st 2009.
.
Please note. The hearse will be met at the entrance to Corris (by the Braich Goch hostel) by the Balchder Cymru Colour party and drum band. They will lead the hearse from there to the chapel. Following the service, the hearse, escorted by a motor cycle group and followed by a motorcade of mournors will proceed to Aberystwyth crematorium which is based on the Clarach Road (B4572) off Penglais Hill, Aberystwyth SY23 3DR. The crematorium service is scheduled to take place at 3.45pm.
.
Following the crematorium service, the mourners will travel back to the 'Plas (used to be Celtica) in Machynlleth to gather by the Owain Glyndŵr memorial there in preparation for a short parade from the Plas to the bowling club.
.
Mourners should have reached the memorial at approximately 5.30pm.
.
5.45pm. Procession will parade through the street of Machynlleth towards the Bowling Club, stopping briefly outside the Canolfan Owain Glyndŵr for one minute silent and a salute.. This will be announced by Adam Phillips of Balchder Cymru when the procession has reached the Senedd-Dŷ.
.
6.20pm. Procession will continue to the Bowling Club where a 'wake' will be held. Refreshments will be available.
.
Additional Information: Glyn's family will head the parade followed by PF/FWA 1969 Anti-Investiture Conspiracy Political Prisoners. Only three survive now but worthy representatives will carry photos of those who have passed away.
.
Five Historically important flags will be present at both services and the parade. They are:
.
* A copy of the banner that would have been the personal banner of the sons of Owain Glyndŵr. This particular banner was made especially for Glyn by his compatriot and fellow prisoner, the very talented Toni Lewis.
.
* Eryr Gwyn Eryri - the flag of Welsh resistance.
.
*The Four Lions Rampant of Owain Glyndŵr and the Golden Dragon (Owain Glyndŵr's battle flag)
.
* The Four Lions Passive flag of Llywelyn 111 representing Cofiwn officers Toni Lewis and Eurig ap Gwilym.
.
This first part of the procession will be followed by:
.
Balchder Cymru Colour Party and Band.
.
then, paraders carrying Glyndŵr flags - a sea of them hopefully so, don't forget to bring yours.
.
followed by paraders carrying other flags and all other paraders.
.
The family has expressed that they would like to see a sea of patriotic flags carried and proudly held high during the parade from the Plas to the bowling club but, they have also expressed that all flags in the vicinity of the services at Corris and the crematorium should be lowered in dignified respect. The family also wish to extend their warm welcome to all Welsh patriots wishing to attend the funeral preceedings to pay their last respects to Glyn.
.
The parade is organised by 'Ysbryd Cofiwn' with the support and cooperation of Balchder Cymru.